Am
Dewch i ddylunio a phaentio adeilad o'r dyfodol gan ddefnyddio cyfrwng cymysg a deunyddiau wedi'u hailgylchu. Ewch ati i ail-ddylunio’n dinas gydag adeiladau o'r dyfodol.
Sut byddwn ni'n byw? Meddyliwch am sut y bydd pobl yn mynd o gwmpas y lle - a fydd ganddynt geir sy'n hedfan? Beth am fythau cludiant a nenlinell y ddinas?
Gallwch arddangos eich gwaith yn ffenestr siop yr oriel (neu fynd ag ef adref gyda chi!)
Mae'r gweithdai wedi'u hysbrydoli gan yr arddangosfeydd cyfredol:
Jason&Becky: ‘Where the Lost Language of the Dead Begins’
Doris Graf: ‘CityX – Me, Swansea’
AM DDIM.
Gweithdy i'r Teulu: Rhaid i bob oedolyn fod yng nghwmni plentyn dan 17 oed. Ni allwn dderbyn oedolion na phlant ar eu pennau eu hunain.