Am

Mae Sawl Cam o Buro/Buredigaeth yn gorff o waith sy'n trafod cyfnod 'Copperopolis' Abertawe, pan oedd y ddinas yn cynhyrchu mwy o gopr nag unrhyw le arall yn y byd, ac yn enwedig ingotau gafodd eu hallforio gan yr East India Company er mwyn cynhyrchu pres yn India; ynghyd â gweithgarwch cenhadon Methodistaidd a oedd yn digwydd o ganlyniad i dwf economaidd Cymru, gwlad ddiwydiannol gyntaf y byd. Gyda'r cyd-destun hanesyddol hwn yn gefndir, mae'r artist a gwneuthurwr ffilmiau Lal Davies yn ystyried treftadaeth De Indiaidd ei theulu, a'u taith i Ogledd Cymru o 1919 ymlaen, gan ddatgelu straeon sy'n rhan o hanes Cymru ond sydd heb eu hadrodd.

Ar y cyd gydag Artistiaid GS. 

Safbwynt(iau)

Mae Safbwynt(iau) yn datgelu hanesion cudd y casgliadau cenedlaethol, o 'webs', sef brethyn Cymreig a ddefnyddiwyd i greu dillad i bobl o Affrica gafodd eu cipio a'u caethiwo, i soffa goch foethus Robert Clive, ffigwr allweddol yn hanes trefedigaeth Prydain yn India. Mae'r rhaglen yn mynd i'r afael â gwaddol cymhleth a phoenus, yn taflu goleuni newydd ar y gorffennol ac yn gosod sylfeini ar gyfer dyfodol mwy cynhwysol sy'n cydnabod y cyfraniadau a’r profiadau amrywiol sydd wedi siapio Cymru a'r byd.

Mae Safbwynt(iau), sy'n broject ar y cyd rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru, yn rhan o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.