Am
Gan | By Caryl Lewis
Cyfarwyddo gan | Directed by Ffion Wyn Bowen
Ymunwch â Byrti a Bwbw wrth iddyn nhw sgleinio’r lleuad! Ond pam mae Pwnîc yn dweud wrth y ddau am beidio gwneud hynny? O diar, bydd y byd i gyd yn dywyll! Yna, mae rhywbeth hudolus iawn yn digwydd!
Mae Sgleinio’r Lleuad yn gynhyrchiad Cymraeg wedi ei anelu at blant 3-7 oed, ond mae hefyd yn addas iawn ar gyfer siaradwyr Cymraeg newydd o bob oedran.
Y Dramodydd | The Writer
Daw Caryl Lewis yn wreiddiol o Ddihewyd ger Aberaeron. Graddiodd o Brifysgol Durham cyn dychwelyd i Brifysgol Aberystwyth i ennill gradd uwch mewn ysgrifennu. Ennillodd Iawn Boi? wobr Tir na n-Og 2004 ac enwyd ei nofel Martha Jac a Sianco yn Lyfr y Flwyddyn 2005. Mae Caryl yn awdures dorieithiog iawn, gyda nifer sylweddol o’i llyfrau hi’n enill gwobrau- gan gynnwys wobr Wales Book of the Year yn 2023. Mae ei llyfrau diweddar hi ar gyfer plant yn cynnwys ‘Hedyn’, ‘Mari a Mrs Cloch’ a ‘The Magician’s Daughter’.