Am

Sgwrs gan artist wedi’i gyflwyno gan Gyfeillion y Glynn Vivian. Artistiaid ‘Celf yn y Nen’ yn sgwrsio â’r curadur, Isabel Griffin. 

Ymunwch ag artistiaid Celf yn y Nen, sef Frances Anderson, Kadek Armika, Anna Rubin a Yoh Yasuda, wrth iddynt sgwrsio â’r curadur, Isabel Griffin, am wneud a hedfan barcutiaid fel darnau cerfluniol. 

Bydd y sgwrs yn cynnig cipolwg unigryw ar y prosesau creadigol sydd wrth wraidd y celfweithiau deinamig hyn, gan archwilio sut mae deunydd, symudiadau a’r awyr newidiol yn trawsnewid barcutiaid yn gerfluniau byw. 

Am ddim, croeso i bawb. Mae’n rhaid cadw lle. 

Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein 

CADWCH LLE NAWR 

 

Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.   

Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.   

Ffôn: 01792 516900     

E-bost: glynn.vivian.gallery@abertawe.gov.uk    

I ddarllen datganiad mynediad yr Oriel cliciwch yma