Am

Ymunwch â ni am y sgwrs am ddim hon gyda Helen Mavin, Pennaeth Ffotograffau, Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol (IWM)! 

Mae Helen yn gyfrifol am ofalu am y casgliad sy’n cynnwys oddeutu 11 miliwn o eitemau ar draws fformatau negatif, print a digidol, ac am ddatblygiad strategol y casgliad. 

Mae cyfraniadau Helen at arddangosfeydd yn cynnwys orielau ffilm a ffotograffiaeth Blavatnik Art, yn IWM Llundain, Wim Wenders: Photographing Ground Zero a Robert Capa: D-Day in 35mm. Mae hi wedi ymchwilio i iaith a golwg drefedigaethol mewn casgliadau ffotograffig yn ymwneud â’r Ail Ryfel Byd ac ar hyn o bryd mae’n cyd-oruchwylio PhD gyda Phrifysgol Caerdydd. 

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o Ffoto Cymru 2024 – Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Cymru. 

Gŵyl fis o hyd, ddwyflynyddol o ffotograffiaeth ryngwladol yw Diffusion: Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Caerdydd, a gynhelir yng Nghaerdydd, prifddinas Cymru. Crewyd yr ŵyl gan Ffotogallery ac fe’i cynhelir ar y cyd â chylch eang o bartneriaid a chefnogwyr lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. 

Mae’r digwyddiad yn rhan o raglen o weithgareddau i ddathlu arddangosfa Out of this World  Heather Phillipson.  

Am ddim, rhaid cadw lle.