Am

Uwchben ac Islaw: Gwaith o gasgliad yr IWM (cynhelir y sgwrs yn Saesneg)   

Ymunwch â ni ar gyfer y sgwrs am ddim hwn gyda Rebecca Newell! 

Mae hedfan a rhyfel yn yr awyr wedi ysbrydoli safbwyntiau artistig newydd drwy’r 20fed a’r 21ain ganrif. Gan ddechrau gyda gwaith celf casgliad yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol (IWM) a ddewiswyd gan Heather Phillipson i’w arddangos ochr yn ochr ag Out of this World, bydd Rebecca Newell yn ystyried sut y mae artistiaid wedi mynd i’r afael â bygythiadau gweladwy ac anweladwy o’r awyr – a cherbydau awyr, parasiwtiau, balŵns, cymylau a goleuni – i lunio mathau newydd o gynrychiolaeth.  

Mae Rebecca Newell wedi bod yn Bennaeth Celf yr IWM ers 2017, gan weithio ar bob agwedd sy’n ymwneud â gofalu am gasgliad celf rhagorol yr amgueddfa, yn ogystal â’u harddangos a’u dehongli. Bu’n guradur arweiniol ar gyfer Orielau Celf, Ffilm a Ffotograffiaeth Blavatnik a agorwyd yn IWM Llundain ym mis Tachwedd 2023 ac mae hi hefyd yn arwain rhaglen gomisiynu celf y Gronfa Waddol IWM 14-18 NOW. Gyda chefndir ym myd hanes celf ac astudiaethau amgueddfaol, mae hi’n rhan o’r gymuned staff sy’n weithredol o ran ymchwil yn IWM, gan gymryd rhan mewn ymchwil, cyhoeddi a phrosiectau arddangosfeydd er mwyn gwella dealltwriaeth o ryfel a’i effaith. Mae ei meysydd ymchwil presennol hefyd yn cynnwys trais ar sail rhywedd yn ystod gwrthdaro a gwthio pobl i’r ymylon yn y casgliad celf. 

Mae’r digwyddiad yn rhan o raglen o weithgareddau i ddathlu arddangosfa Out of this World  Heather Phillipson.  

Am ddim, rhaid cadw lle.