Am
Sgyrsiau Astudiaethau Lleol - Dydd Sadwrn 28 Chwefror
Dewch i ddarganfod byd diddorol hanes Abertawe. Llawr cyntaf y Llyfrgell Ganolog, Y Storfa. Does dim angen cadw lle. Hyn a hyn o seddi sydd ar gael.
Blitz Tair Noson Abertawe ym mis Chwefror 1941 – 85 mlynedd yn ddiweddarach.
Mae'r digwyddiad hwn i goffáu 85 mlynedd ers Blitz Tair Noson Abertawe a ddigwyddodd rhwng 19 a 21 Chwefror 1941. Dinistriodd y Blitz ganol y ddinas, gan newid hanes Abertawe am byth. Bydd Llyfrgell Ganolog Abertawe'n cynnal digwyddiad drwy'r dydd ar 28 Chwefror i nodi'r achlysur. Bydd sgyrsiau a fydd yn archwilio'r Blitz o sawl safbwynt, o ymosodwyr yr Almaen i'r amddiffynwyr dewr, a'r stori lawn am yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y cyrchoedd.
Digwyddiad drwy'r dydd:
10.15am – Cyflwyniad
10.20am – Nigel Robins – Before the Bombers: The Luftwaffe over Wales
11.20am – Egwyl
11.30am – Bernard Lewis - Preparing for Disaster: Defending Swansea
12.30pm – Egwyl
1.40pm – Dr John Alban – Swansea's Three Nights' Blitz in Context
2.40pm – Egwyl
2.50pm – Brains Trust - Trafodaeth banel a chwestiynau
Bydd gweithgareddau crefft a chwis hunanarweiniedig i blant ar thema'r rhyfel ar yr un diwrnod. Bydd hefyd arddangosfa ar yr Ail Ryfel Byd ar y llawr cyntaf.