Am

Grŵp a arweinir gan gyfranogwyr ac a gefnogir gan Oriel Gelf Glynn Vivian yw Sgyrsiau Cyfoes. 

Mae Sgyrsiau Cyfoes yn cwrdd yn yr oriel ddwywaith y mis i drafod syniadau a themâu o arddangosfeydd celf yn yr oriel yn ogystal â mudiadau celf hanesyddol o ardaloedd pellach. 

Er bod y grŵp wedi’i leoli yn Oriel Gelf Glynn Vivian, weithiau mae’r grŵp yn teithio oddi ar y safle i leoliadau diwylliannol eraill a stiwdios artistiaid.