Am

The Paper Cinema

Straeon byrion o fydoedd eraill; ysbrydion, breuddwydion a’r goruwchnaturiol.

Mae’r chwedleuwyr cyfareddol a dychmygus, The Paper Cinema, yn creu bydoedd rhyfeddol a hudol, drwy ddarluniadau pin ac inc, pypedwaith a gwledd o seiniau acwstig ac electronig.

Yn y sioe hon, mae dau bypedwr ac aml- offerynnydd yn cyflwyno chwedlau atmosfferig o ysbrydion, breuddwydion a’r goruwchnaturiol, gan gynnwys Night Flyer sydd â naws breuddwyd, y stori ddigrif Devil in Cornwall, y stori arswydus Wanderer a King Pest gan Edgar Allan Poe.

Cydnabyddiaeth: Comisiynwyd rhai o’r straeon yn wreiddiol gan Sound UK. Comisiynwyd Night Flyer a King Pest gan Battersea Arts Centre.

“The pleasure here is not just that the animations… but also that you can see how the show is being made right before your eyes”
THE GUARDIAN

Something special” THE TIMES