Am

SHOW! Ysbrydolir y perfformiad hwn gan waith Hofesh Shechter, sy'n dweud bod ei iaith ddawns yn archwiliad o egwyddorion sylfaenol: Egni/Emosiwn, Cyfanrwydd, Curiad/Rhythm, Gwaith Llawr.
Wedi'i goreograffu gan Julie Hobday, Rebecca Edwards a Laura Billington

Polisi County Youth Dance Company (CYDC) yw hyrwyddo dawns gyfoes i fyfyrwyr 13 i 21 oed o amrywiol ysgolion cyfun a cholegau yn Abertawe a thu hwnt. Y nod yw creu gweithiau dawns gwreiddiol gan ddatblygu sgiliau dawnswyr drwy strwythur addysgol sy'n cynnwys techneg a thasgau creadigol. Mae'r cyfarwyddwyr artistig a'r ymarferwyr sy'n gweithio gyda CYDC yn hyrwyddo ac yn cefnogi datblygu hyfforddiant, addysg a pherfformiadau dawns gyfoes ymhellach. Ni yw chwaer-gwmni Theatr Ieuenctid Gorllewin Morgannwg.

Rhan o Benwythnos Abertawe Greadigol 2025