Am

Mae 'band roc a rôl gorau'r byd' yn ddatganiad beiddgar, ond mae Showaddywaddy wedi cyfiawnhau'r teitl hwnnw dros y 5 degawd diwethaf!

Mae'r band, a ffurfiwyd yng Nghaerlŷr yn y 1970au o sawl band lleol, wedi gwerthu dros 20 miliwn o recordiau ac wedi teithio'n helaeth i bob cwr o'r byd.

Mae eu sioe'n fywiog ac yn codi'r hwyliau ac mae'n cynnwys pob un o'u caneuon mwyaf poblogaidd, yr oedd sawl un ohonynt wedi cyrraedd brig siartiau pop Ewrop:

'Under The Moon of Love', 'Three Steps to Heaven', 'Hey Rock & Roll', 'When', 'Blue Moon', 'Pretty Little Angel Eyes' a llawer, llawer mwy.

Felly dewch i ganu, dawnsio ac ymuno yn yr hwyl!

SunMonTueWedThuFriSat
303112345678910111213141516171819202122232425262728293012345678910