Am

Mae Joanna Simpkins yn dychwelyd i Theatr Volcano am yr eildro yn 2025 gyda pherfformiad unigol o'i chynhyrchiad diweddaraf, Silent Night, Raging Eve.

Wrth i Eve ddathlu tymor yr ŵyl drwy drefnu parti Nadolig, mae hi'n dechrau meddwl am bethau. Mae Eve yn wynebu'r realiti nad yw hi'n mynd yn iau, ac nid yw'n gwneud unrhyw ymdrech i ymddangos yn iau, chwaith. Mae Silent Night, Raging Eve yn sioe gomedi dywyll sy'n archwilio'r hyn y mae'n ei olygu i fynd yn hŷn mewn cymdeithas sy'n rhoi cymaint o bwyslais ar harddwch ac ieuenctid, a'r pwysau ychwanegol rydym yn eu teimlo dros y Nadolig.

Mae'r sioe yn nodi trydydd perfformiad Joanna yn Theatr Volcano, yn dilyn Seagulls yn 2015 a Juiced to Death yn gynharach eleni. Daw Joanna o Hull yn wreiddiol, ac mae ganddi gysylltiad cryf â Chymru ar ôl hyfforddi yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac yn dilyn treulio sawl blwyddyn yn gweithio gyda chwmnïau theatr Cymru.

Drwy gydol ei gyrfa, mae Joanna wedi gweithio ar amrywiaeth eang o gynyrchiadau, o destunau clasurol i theatr gorfforol. Mae hi bellach yn creu gwaith sy'n cyfleu ei phrofiad bywyd ac sy'n canolbwyntio ar ei llais ei hun.