Am
Bydd y band byd enwog yn dod â'u taith Summer Funk 27 i Barc Singleton Abertawe nos Wener 20 Awst 2027
Mae Simply Red wedi cael eu cyhoeddi fel y prif berfformwyr cyntaf ar gyfer Singleton Live, cyfres newydd sbon o gyngherddau awyr agored mawr yn Abertawe a fydd yn cael eu lansio ym Mharc Singleton yr haf nesaf.
Bydd y band byd enwog, dan arweiniad Mick Hucknall, yn perfformio ym Mharc Singleton nos Wener 20 Awst 2027 fel rhan o'u taith Summer Funk '27 yn y DU ac Ewrop.
Y gyngerdd hon fydd eu hunig sioe yng Nghymru y flwyddyn nesaf.
Bydd y gyngerdd haf llawn egni hon yn cynnwys rhai o ganeuon mwyaf poblogaidd Simply Red, gan gynnwys Fairground, Something Got Me Started a Money's Too Tight (To Mention), yn ogystal â chaneuon poblogaidd o gatalog o gerddoriaeth a ddatblygwyd dros bedwar degawd.
Mae Simply Red yn parhau i fod yn un o fandiau mwyaf llwyddiannus y DU, gyda phum albwm ac un can sydd wedi cyrraedd brig y siartiau, naw cân arall a gyrhaeddodd y 10 uchaf yn y DU, tair gwobr BRIT a dwy wobr Ivor Novello. Eu halbwm Stars, a gyhoeddwyd ym 1991, oedd yr albwm a werthodd orau ym Mhrydain ac Ewrop am ddwy flynedd yn olynol, ac mae pob albwm stiwdio arall wedi cyrraedd y 10 uchaf yn y DU.
Mae'r cyhoeddiad yn dilyn taith y band i ddathlu 40 o flynyddoedd yn 2025 a dyma'r sioe gyntaf a gyhoeddir ar gyfer Singleton Live, y gyfres newydd sy'n dod ag artistiaid mawr i Abertawe ar gyfer eu hunig berfformiad yng Nghymru Gymru yn ystod haf 2027.
Bydd y cyfle i gael mynediad cynnar at docynnau'n dechrau am 10am ddydd Mawrth 22 Medi 2026, gyda gweddill y tocynnau'n mynd ar werth i'r cyhoedd am 10am ddydd Iau 24 Medi 2026.
Gall cefnogwyr gael mynediad cynnar at docynnau trwy gofrestru yn croesobaeabertawe.com/cofrestru