Am

Digwyddiad amaethyddol undydd traddodiadol yw'r sioe, ac mae'n ddiwrnod allan llawn hwyl i’r teulu y gall pawb ei fwynhau.

 

Bydd rhaglen lawn o arddangosfeydd a chystadlaethau'n cael ei chynnal drwy gydol y dydd a byddwch yn rhyfeddu at yr amrywiaeth o weithgareddau y gall pobl o bob oed eu mwynhau. Cofiwch ymweld â'r pebyll cystadleuaeth i weld yr arddangosfeydd blodau, llysiau, coginio a chelf a chrefft.