Am
Ymunwch â ni am y sgwrs am ddim hon â Skin Phillips
O’r tu mewn i arddangosfa 360° yn Ystafell 3, bydd Phillips yn trafod rhai o’i luniau mwyaf dylanwadol, ynghyd â lluniau nas gwelwyd eto, gan gwmpasu degawdau o ddatblygu ym maes sglefrfyrddio.
Mae Skin Phillips yn adnabyddus am ei waith gyda Transworld Skateboarding, cylchgrawn o San Diego, ac mae wedi bod yn ffigur canolog wrth ddogfennu’r byd sglefrfyrddio. Mae ei ffotograffiaeth yn cyfleu adrenalin a chelfyddyd sglefrfyrddio ond mae hefyd yn dangos y newid diwylliannol o ddiwylliant cudd i ffenomen fyd-eang.
Mae Skin Phillips, sydd o Abertawe’n wreiddiol, wedi gadael marc parhaol ar y byd sglefrfyrddio drwy ei ffotograffiaeth.
Dechreuodd ei yrfa ar ddechrau’r 1980au ac mae ei waith wedi bod yn arweiniol mewn cyhoeddiadau ac arddangosfeydd sglefrfyrddio yn fyd-eang. Mae safbwynt unigryw Phillips a’i allu i ddangos hanfod y diwylliant sglefrfyrddio yn golygu ei fod wedi ennill clod a pharch cyffredin o fewn y diwydiant.
Mae’n rhaid i blant dan 10 oed fod yng nghwmni oedolyn.
Am ddim, rhaid cadw lle.