Am

Mae’r daith i gefnogi albwm cyntaf newydd skylrk - ti'n gweld yn glir¿ - yn cyrraedd Oriel Mission ar nos Wener!

Mae skylrk. yn artist hip hop Cymraeg sydd wedi bod yn brysur o fewn y sîn gerddoriaeth Gymraeg ers iddo ddod i’r brig ym Mrwydr y Bandiau nôl yn 2021. Ers hynny mae wedi mynd ymlaen i wedi perfformio a rhyddhau yn gyson, wedi bod yn un o artistiaid Forté yn 2022, ac wedi perfformio fel rhan o Gig y Pafiliwn 2023 efo cerddorfa'r Welsh Pops.

Tra’n brysur yn rhyddhau senglau a gigio mewn gwyliau, mae skylrk. wedi bod yn brysur yn gweithio ar ei brosiect hir cyntaf sef 'ti’n gweld yn glir¿'. Mae’r albwm yn cael ei ryddhau ar y 25ain o Hydref drwy INOIS, sef label sefydlwyd Hedydd Ioan (skylrk.) efo’i ffrind a’r cerddor, Osian Cai