Am

Bale Tylwyth Teg trawiadol a gyflwynir gan Imperial Classical Ballet®.

Gyda cherddorfa fyw fawr.

Ar ôl llwyddiant nodedig y llynedd, mae Imperial Classical Ballet® yn falch o ddychwelyd i'r DU i gyflwyno'u cynhyrchiad trawiadol o Sleeping Beauty.

Stori dylwyth teg ddiamser...........

Mae SleepingBeauty, hoff stori pob plentyn, yn stori hudol am gariad, diniweidrwydd, dirgelwch a swyn. Mae'r campwaith bale clasurol hwn sydd wedi'i osod i sgôr drawiadol Tchaikovsky yn dod â stori'r frwydr rhwng da a drwg mewn byd o ffantasi a rhyfeddod yn fyw.

Mae'r cynhyrchiad syfrdanol hwn yn cynnwys coreograffi cain, gwisgoedd godidog a setiau cyfareddol, i greu profiad bythgofiadwy i gynulleidfaoedd o bob oed. Cewch weld brwydr y dylwythen deg Lelog yn erbyn y dylwythen ddieflig Carbosse wrth iddynt drefnu tynged y Dywysoges Aurora

Mae Sleeping Beautysy'n seiliedig ar chwedl dylwyth teg boblogaidd Charles Perrault yn dilyn taith y Dywysoges Aurora, a felltithiwyd yn ystod ei bedydd gan Carbosse, y dylwythen ddieflig, i bigo ei bys ar werthyd a marw. Mae ymyriad amserol y Dylwythen Deg Lelog yn newid ei ffawd - bydd yn cysgu am gan mlynedd yn lle marw.

Yn dilyn y cynhyrchiad disgleirwych hwn o Sleeping Beautysy'n llawn swyn a goleuni, mae cynulleidfaoedd yn teimlo'n adfywiedig, yn ysbrydoledig ac wedi'u cyfareddu'n llwyr. Mae'n brofiad perffaith i bawb, o'r selogion sy'n hen gyfarwydd â bale i'r newydd-ddyfodiaid ieuengaf.