Am
Hysbysiad i Gwsmeriaid - Cynhelir y perfformiadau hyn ar ôl i'r ardal seddau arferol gael ei hadnewyddu a'i hailgynllunio. Felly, bydd y cynllun seddau'n ymddangos yn wahanol i rai cwsmeriaid. Peidiwch â phoeni gan ei fod yn cyd-fynd â'r cynllun newydd.
O ddrych rhyfeddol, o ddrych mawr hud - pwy sy'n barod ar gyfer pantomeim gorau'r byd?
Camwch i fyd o hud a lledrith wrth i bantomeim Snow White gyrraedd Theatr y Grand Abertawe ar gyfer sioe Nadoligaidd gyfareddol sy'n siŵr o ddifyrru pobl o bob oed. Mae'r traddodiad Nadolig hwn, sy'n llawn gwisgoedd disglair, caneuon rhagorol, comedi hynod ddoniol a digonedd o hud, yn un na fydd eich teulu am ei golli!
Ar ôl i'r drych hud ddatgan mai Eira Wen yw'r ferch decaf yn y wlad, mae Morgiana, y Frenhines ddrwg, yn cael ei chynddeiriogi o achos eiddigedd! A fydd cyfeillion Eira Wen yn gallu ei hachub rhag cynddaredd y Frenhines, gan adael iddyn nhw i gyd fyw'n hapus am byth?
Gyda chast llawn sêr i'w gyhoeddi maes o law, unwaith eto, bydd pantomeim blynyddol Theatr y Grand Abertawe'n cynnwys holl gynhwysion pantomeim teuluol perffaith - effeithiau arbennig rhyfeddol, comedi slapstic digrif dros ben a digon o gyfleoedd i floeddio bŵ a chymeradwyo, a gweiddi "Mae e' y tu ôl i chi"!
Archebwch eich tocynnau er mwyn creu atgofion hudol gyda'r teulu yn Theatr y Grand Abertawe.