Am
Mae enghraifft berffaith o sioe ddirgel glasurol boblogaidd yn dod i Abertawe, gyda dangosiad rhyngweithiol un o benodau’r rhaglen glasurol Murder, She Wrote, “A Fashionable Way to Die”.
Mae Jessica Fletcher yn ymweld â ffrind sy’n ddylunydd ym Mharis, ond yn fuan mae llofruddiaeth a dim ond hi (neu chi!) sy’n gallu ei datrys!
Cynhelir y noson unigryw a doniol hon gan y cefnogwr brwd Tim Benzie ac mae’n cynnwys gemau, gwobrau a chyfranogiad y gynulleidfa, gan gynnwys:
Ras i ddatrys y drosedd, drwy’r ‘Fameometer’ a’r ‘Suspiciometer’!
Cwis am Cabot Cove!
Cydganu’r gerddoriaeth thema gyda geiriau newydd!
Clipiau a bywgraffiadau’r sêr gwadd dramatig!
Gyda chaniatâd arbennig gan NBC Universal Television.
***** BROADWAY WORLD **** BROADWAY BABY
**** BRITISH THEATRE GUIDE **** ONE4REVIEW
**** THE NERD PARTY
50 Great Nights Out 2019 & 2021 TIME OUT