Am

Mae'r merched wedi creu sioe theatr arbennig iawn gyda naws parti difyr. Byddant yn perfformio eich hoff ganeuon gan y Spice Girls gyda'u band cefnogol bendigedig, lleisiau a dawnsiau trawiadol, a gwisgoedd dilys disglair.

Gwnaeth Geri Halliwell, Melanie Brown, Melanie Chisholm, Emma Bunton, a Victoria Beckham, a adwaenir hefyd fel Ginger, Scary, Sporty, Baby a Posh ffurfio'r SPICE GIRLS yn ôl ym 1996.

Roeddent ar frig y siartiau ar draws y byd gyda chaneuon poblogaidd fel Wannabe, Stop, Say You'll Be There, Who Do You Think You Are, Viva Forever, Too Much, Goodbye, Holler, 2 Become 1, Mama, a Spice Up Your Life.

Gwnaethant werthu cyfanswm o 85 miliwn o recordiau ar draws y byd, gan ddod y grŵp merched mwyaf erioed! Roedd eu steil a'u hagwedd 'Pŵer Merched' wedi ysbrydoli cenhedlaeth. Mae gan y grŵp bythol boblogaidd lu o gefnogwyr ffyddlon sy'n tyfu o hyd.