Am
Bydd y prynhawn hwn o gelf fyw a pherfformiadau rhyngweithiol yn dechrau gyda bwyta cerflun bwyd a bydd yn dod i ben gyda pherfformiad gan Gôr True Colours, fel rhan o ddigwyddiad eclectig sy'n addas i deuluoedd.
Bydd yn cynnwys popeth o Gwpanau Cyfrinachol (straeon sain ar raddfa fach sydd wedi'u sibrwd i'ch clustiau'n uniongyrchol o gwpanau tsieni) i adolygiad o albwm nad yw'n bodoli, i berfformiad gan Thomas Leonard. Dewch i fwyta cerflun bwyd sydd wedi'i greu yn arbennig gan y cogydd a'r artist bwyd, Leo Niehorster, ochr yn ochr â chyfranogwyr Queertawe. Mwynhewch!
Mae croeso i bobl o bob oed. Mae'r digwyddiad hwn yn cynnwys disgrifiad clywedol a dehongliad Iaith Arwyddion Prydain.