Am
Ymweliad hunandywysedig YN OGYSTAL Â Sgwrs Cyflwyniad i Dylan a phaned o de a phice ar y maen AM DDIM
Camwch i mewn i fyd Dylan Thomas!
Bydd eich tywysydd yn eich cyfarch a byddwch yn mwynhau sgwrs ddiddorol am Dylan Thomas, yr hanes a'r gwaith i adnewyddu ei fan geni, a'i waith gan gynnwys y darnau a ysgrifennwyd ganddo yn y tŷ. Bydd cyfleoedd i ofyn cwestiynau ac i gloddio'n ddwfn i unrhyw agwedd ar Dylan neu'r man geni sydd o ddiddordeb i chi. Nid oes angen unrhyw wybodaeth am Dylan ymlaen llaw!
Ar ôl y sgwrs Cyflwyniad i Dylan byddwch yn derbyn taflen ar gyfer eich ymweliad a map o'r man geni. Dewch i ddarganfod yr ystafelloedd lle'r oedd Dylan yn byw ac yn ysgrifennu. Ym mhob ystafell byddwch yn dod o hyd i ragor o wybodaeth am y teulu, y tŷ a gwaith arbennig Dylan. Gallwch archwilio'r man geni yn eich amser eich hun.
Caiff eich paned a'ch pice ar y maen eu gweini ar hen dseini yn y parlwr ar ôl i chi archwilio'r man geni.
Bydd gennych amser diderfyn i dreulio yn y man geni ond bydd y man geni'n cau am 5pm. Fel arweiniad, mae 'Ymweliad hunandywysedig YN OGYSTAL Â Sgwrs Cyflwyniad i Dylan' yn para tua 1 awr a 30 munud.