Am

Mae Steve Eaves wedi bod yn perfformio ar lwyfannau ers dros 40 mlynedd ac yn parhau i ysbrydoli gwrandawyr a cherddorion o bob oed gyda cherddoriaeth sy'n ddwfn dan ddylanwad y blws.

Mae Steve a’i fand wedi recordio 10 albwm o ganeuon Steve ers 1983 – yn eu plith 'Cyfalaf a Chyfaddawd' (1985), 'Croendenau' (1992), 'Y Canol Llonydd Distaw' (1996), 'Iawn' (1999), 'Moelyci' (1997) ac 'Y Dal Yn Dynn, Y Tynnu'n Rhydd' (2018).

Mae'n gitarydd acwstig medrus a chynnil ei arddull, sy’n canu gyda llais cynnes, agos-atoch-chi, ond hefyd efo rhywfaint o naws gras y blws. Mae ei fand, Rhai Pobl, yn cynnwys rhai o gerddorion cyfoes gorau Cymru.

Daeth Steve Eaves i amlygrwydd fel bardd yn ogystal â cherddor, gyda chyhoeddi dwy gyfrol o farddoniaeth,'Noethni' (1983) a 'Jazz yn y Nos' (1986) ac mae disgyblaeth y bardd yn glir yn ei ganeuon.

 

Nos Wener 29.11.24. Drysau am 19:30