Am

Paentio tirluniau ar thema ffantasi. Bydd y gweithdy hwn yn cael ei ysbrydoli gan baentiadau breuddwydiol Ceri Richards, a bydd cyfle i chi baentio eich tirlun eich hun sydd wedi’i ysbrydoli gan freuddwydion. 

Mae’r prosiect hwn yn rhan o weithdy Straeon Abertawe. Ariennir Straeon Abertawe gan Esmée Fairbairn Foundation a Chymdeithas yr Amgueddfeydd, ac mae’n dod â lleisiau newydd i ddehongli casgliad parhaol Oriel Gelf Glynn Vivian.  

Yn addas i blant 3+ oed   Darperir yr holl ddeunyddiau.     

Mae’n rhaid i blant dan 10 oed fod yng nghwmni oedolyn.     

£3.00 y plentyn yng nghwmni un oedolyn  

£2.00 ar gyfer unrhyw oedolyn ychwanegol sy’n dod i’r gweithdy hwn  

  

Rhaid cadw lle.    

Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein     

Mae nifer cyfyngedig o leoedd am ddim ar gael unigolion sy’n ceisio lloches neu’r rheini â Phasbort i Hamdden. Gofynnwch i’n tîm cyfeillgar am ragor o fanylion.    

   

Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.      

Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.      

Ffôn: 01792 516900        

E-bost: glynn.vivian.gallery@abertawe.gov.uk        

I ddarllen datganiad mynediad yr Oriel cliciwch yma