Am

Wedi'i gynhyrchu a'i gyflwyno gan The Tim Arnold Company

★★★★ 'Any piece of art should have the audience leave with more than they entered the room with. Super Connected definitely succeeds : it is a hugely significant piece of work, containing a vital message, carefully constructed and brilliantly performed. Outstanding'  UK Fringe Review 

Ydy'n bryd torri'n perthynas â'n ffonau?

 Mae'r addasiad hwn i'r llwyfan o albwm Tim Arnold, 'Super Connected' a ganmolwyd gan y beirniaid, yn sioe roc-gelf yn arddull Black Mirror. Mae'n cyfuno ffilm, cerddoriaeth fyw a theatr i ymdrin â pherygl y cyfryngau cymdeithasol, caethiwed i sgriniau ac effaith pŵer Technoleg Fawr dros fywyd dynol.

Wrth i'r ffilm fynd rhagddi, mae Arnold yn canu ei ganeuon sy'n dilorni Silicon Valley ar y llwyfan ac ar y sgrîn. Gydag uchelgais Radiohead a steil Bowie, mae Super Connected BYW megis ffilm fud ar gyfer yr oes ddigidol. Sylwebaeth gan Stephen Fry.

Yn llawn ffraethineb, doethineb a dychryn, mae'r sioe yn adrodd stori wir am berson ifanc yn brwydro yn erbyn caethiwed i'r sgrîn - a brwydr ei theulu yn ei erbyn.

Wrth iddo gael ei dynnu i mewn i'r sgrîn ac allan ohoni gan y cymeriadau sy'n hoelio'r sylw, mae Arnold yn ymgodymu ag ystyr cysylltiad ac agosrwydd mewn byd lle mae'r cyfryngau digidol yn mynnu'r sylw.

Diffoddwch eich Ffonau! Rhowch eich ffôn yn eich bag neu eich poced a rhyddhau eich hun o'r felin ddigidol cyn y sioe!

Ymunwch â ni ar ôl y sioe i gymdeithasu heb sgriniau a sgwrsio â'n gilydd ac â'r tîm creadigol.

Gwrandewch ar yr albwm cyn i chi wylio'r sioe: https://superconnected.technology/the-album/ 

Dilynwch Super Connected a Tim Arnold ar Instagram: @superconnecteduk @timarnold

Ewch i'r wefan swyddogol: https://superconnected.technology/story/

Addas i gynulleidfaoedd 14 oed a hŷn

Daw'r gerddoriaeth o'r albwm Tim Arnold - Super Connected

Wedi'i ysgrifennu a'i berfformio gan Tim Arnold

Piano - Sarah Kershaw

Cyfarwyddwyd y ffilm gan Tim Arnold. Datblygwyd gyda Kate Alderton a chyfarwyddwyd ganddi

Cynhyrchwyd gan Nim Arnold ar gyfer The Tim Arnold Company

★★★★ 'A lush, dynamic and dramatic piece about the enslavement and surveillance of our phone and computer screens' Mojo 

★★★★ ‘A mammoth triumph, through Tim Arnold's immaculate songwriting and Kate Alderton’s superlative artistic stage direction. A reformation of the art of album-crafting' Brighton and Hove News 

★★★★ 'Super Connected is like a warning from the future... remarkably poignant, funny, ominous and heartrending' RnR 

★★★★ 'A unique piece about the loneliness  of the digital landscape.' The Times 

★★★★ 'On this excellent, consciousness-raising album and film it’s powerful and idiosyncratic enough that listeners might reconsider how they interact with tech' We Are Cult