Am
Dewch i wylio Monkey Business a Power Boy and the Destroyer, dwy ffilm fer am archarwyr a grëwyd gan ddarpar wneuthurwyr ffilmiau ifanc Abertawe.
Mae Monkey Business yn dangos ein harcharwr yn brwydro yn erbyn lleidr barus sy'n benderfynol o achosi anrhefn drwy ryddhau gorila crac i dynnu sylw oddi ar ei droseddau. A fydd ein harcharwr yn ennill y dydd? A fydd e'n gallu dychwelyd y gorila a chau'r porth mewn pryd?
Mae Power Boy and the Destroyer, stori glasurol am y da yn erbyn y drwg, yn adrodd stori adar drwg, pyrth diflannol a brwydr feddyliol a chorfforol
Ariennir Abertawe Greadigol gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin ac fe'i cyflwynir gan Gyngor Abertawe.