Am
Mae Sean Mathias, y llenor a'r cyfarwyddwr sydd wedi ennill sawl gwobr yn y West End a Broadway, yn cyflwyno Swansea Boy, taith rannol hunangofiannol drwy amser, lle a hunaniaeth.
“Yn Abertawe yn y 1980au, mae dyn ifanc yn cwympo mewn cariad, cyn wynebu torcalon a cholled wrth ddarganfod bod gan ei bartner AIDS.”
Cynhelir y cynhyrchiad arloesol hwn am dair wythnos yn Theatr Volcano yn Abertawe, o 7 i 29 Mawrth 2025. Bydd y gynulleidfa o 50 o bobl yn unig fesul perfformiad yn cael profiad ymdrochol ar ffurf promenâd, gan deithio o draeth heulog ym mhenrhyn Gŵyr i fflat fohemaidd yn Llundain ac yn y pen draw i ben tŷ trawiadol ym Moroco.