Am

Teithiau Cerdded Swansea In Gloom

Mae Teithiau Cerdded Swansea In Gloom yn mynd â chi'n ôl i'r gorffennol gyda straeon difyr am ysbrydion, llofruddiaethau a'r hanes prudd sydd o'n cwmpas bob dydd. Ymunwch ag adroddwr straeon Swansea In Gloom ar daith gerdded drwy'r hen dref a'r tu hwnt. Dewch i glywed am gyfrinachau mwyaf tywyll Abertawe am lofruddiaethau, ofergoelion, gormodedd ac ysbrydion sy'n llechu ym mhob cornel, wrth i ni ddatgelu straeon o'r oesoedd canol hyd at ganol yr ugeinfed ganrif.

Ni fyddwch yn gweld y ddinas yn yr un ffordd eto ar ôl i chi glywed y chwedlau hyn wrth i ni atgyfodi'r hen Abertawe o'r lludw. Mae taith gerdded Swansea In Gloom yn para am oddeutu dwy awr ac mae'n cwmpasu ychydig dros filltir llawn chwedlau erchyll. Bydd y daith yn dechrau ac yn gorffen yn Llys Glas (yr hen orsaf heddlu) yng nghaffi/bar HQ Urban Kitchen. Rhoddir cyfraniad bach o bob taith at Matt’s Café, safle o ddiddordeb hanesyddol pwysig, sydd bellach yn gwneud gwaith anhygoel i helpu pobl mewn angen.

Mae Swansea In Gloom yn rhan o sefydliad nid er elw sydd â'r nod o wella'r lleoedd rydym yn byw ynddynt drwy fentrau lleol bach, gan gynnwys Swansea Library of Things a chaffi/bar HQ Urban Kitchen. Ymwadiad: Efallai y bydd y cynnwys a'r lleoliadau'n peri gofid i rai gwesteion.

Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer unigolion 15+ oed. £11.55 yr un yw pris tocyn.