Am
Pumawd Dave Cottle, yr adroddwyr Siân Lloyd a Griff Harries
'A Christmas Story' gan Richard Burton ac
'A Child's Christmas in Wales' gan Dylan Thomas
Dau addasiad jazz newydd a gyfansoddwyd gan Dave Cottle, gyda'r adroddwyr Siân Lloyd a Griff Harries, ynghyd â phumawd Dave Cottle. Bydd seibiant rhwng y ddau ddarn! Ar noswyl Nadolig, mae Richard, sy'n wyth oed, yn byw gyda'i chwaer hŷn ym Mhort Talbot. Mae ei ewythr Mad Dan yn mynd ag ef i ganu gyda'r glowyr o gwmpas y goelcerth oherwydd bod ei chwaer lan lofft yn ddifrifol sâl... neu ydyw hi? Efallai y bydd Richard bach yn cael rhywbeth annisgwyl dros y Nadolig. Wedi'i hysgrifennu gan Burton a'i hysbrydoli gan un o straeon ei arwr, Dylan Thomas, sef 'A Child's Christmas in Wales', a gaiff ei pherfformio yn ail ran y sioe, bydd y stori'n cyflwyno atgofion Burton am y Nadolig ym Mhort Talbot yn ystod ei blentyndod.
Darn o ryddiaith gan y bardd o Gymru Dylan Thomas a gafodd ei recordio ganddo ym 1952 yw 'A Child's Christmas in Wales'. Gan ddeillio o ddarn arall a ysgrifennodd ar gyfer BBC Radio, mae'r gwaith yn fyfyrdod anecdotaidd ar ryw Nadolig o safbwynt bachgen ifanc, gan bortreadu amser hiraethus a symlach. Mae'n un o ddarnau mwyaf poblogaidd Thomas.
Mae Dave Cottle, cerddor jazz o Abertawe, wedi cyfansoddi'r ddau addasiad jazz newydd i ategu'r darnau gydag amrywiaeth o ddarnau jazz, gan gynnwys caneuon. Dave yw pianydd rheolaidd Clwb Jazz Abertawe ac mae wedi trefnu'r digwyddiadau wythnosol yn y clwb ers bron 30 mlynedd. Mae Dave wedi perfformio fel cyfeilydd i gannoedd o artistiaid a bandiau jazz rhyngwladol yn ystod ei yrfa hir mewn cerddoriaeth. Gellir ei weld yn aml yn perfformio gyda'r band rheolaidd yn nosweithiau jazz wythnosol clwb Ronnie Scott. Sefydlodd ef Ŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe yn 2014.
Ganed Siân Lloyd (adroddwr) ym Maesteg yn ne Cymru ac mae hi wedi cyflwyno'r tywydd yn hwy nag unrhyw fenyw arall yn y Deyrnas Unedig ar ôl ymddangos ar raglen ITV am 24 blynedd. Dechreuodd ei gyrfa yn y cyfryngau fel ymchwilydd ar gyfer y rhaglen newyddion nosweithiol BBC Wales Today. Pan oedd yn Llundain, bu'n gweithio gyda'r Swyddfa Dywydd ar raglenni dogfen am y tywydd. Mae Siân yn gymeriad poblogaidd ar y teledu, ar ôl ymddangos ar raglenni fel I'm a Celebrity... Get Me Out of Here!, Total Wipeout a Celebrity First Dates, ymysg eraill.
Mae Griff Harries (adroddwr) wedi teithio ar draws y DU, Gorllewin Ewrop ac arfordir dwyreiniol Gogledd America yn ystod ei yrfa. Ef yw cyfarwyddwr sefydlu Cerddorfa Siambr Cymru, a bu'n gyfrifol am gyflwyno pantomeimiau Theatr y Grand Abertawe am fwy na degawd. Fodd bynnag, mae'n fwyaf adnabyddus am ei flynyddoedd niferus fel darlledwr gyda Swansea Sound, yn enwedig ei gyfnod yn cyflwyno The Late Show. Gallwch ei glywed yn siarad Cymraeg a Saesneg ar Welsh Coast Radio. Fel siaradwr Cymraeg rhugl, mae Griff yn falch o fod yn aelod o Orsedd Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol am ei wasanaethau i gerddoriaeth a'r celfyddydau.
Dave Cottle (piano a thrwmped), Griff Harries (adroddwr), Siân Lloyd (adroddwr)
Sarah Meek (llais), Dan Newberry (sacsoffon), Alun Vaughan (bas)
a Paul Smith (drymiau)