Am

Mae Or Bareket, y basydd, y cyfansoddwr a'r arweinydd band, yn un o ffigurau blaenllaw ei genhedlaeth yn Efrog Newydd ac yn fyd-eang.

Mae'n hedfan i'r DU gyda'i bedwarawd o Efrog Newydd ar gyfer perfformiadau ym Manceinion, clwb jazz Ronnie Scott's yn Llundain ac yma yn Abertawe!

Mae ei ddoniau unigryw, ei fedrusrwydd rhythmig a'i arddull sy'n llawn curiadau yn ganolog i'w berfformiadau a'i gerddoriaeth sy'n gwneud i'w gynulleidfaoedd fod eisiau dawnsio.

Mae albymau pedwarawd diweddar Bareket, sef SAHAR (2022) ac YŌM" (2024) ymhlith albymau sy'n diffinio cerddoriaeth jazz fodern Efrog Newydd. Mae albwm nesaf y pedwarawd a fydd yn cael ei ryddhau yn yr hydref eleni yn siŵr o dderbyn yr un ganmoliaeth.

Fel y dewis cyntaf i lawer yn y byd jazz, mae Bareket wedi gweithio'n rheolaidd gyda phobl fel Joel Ross, Etienne Charles, Camila Meza, Ben Wendel ac Yosvany Terry, ac mae wedi perfformio gyda Joshua Redman, Chris Potter, Marta Sanchéz, José James, Aaron Parks, Sullivan Fortner a llawer mwy."..cerddoriaeth llawn soffistigedigrwydd rhythmig a dyfnder telynegol...yn llawn egni a manylion clyfar." -Nate Chinen, WBGO Jazz. Mae beirniaid yn canmol ei arddull perfformio sy'n llawn rhythmau creadigol a manwl, a'i ysbryd croesawgar wrth arddangos artistiaeth a chreadigrwydd byd-eang sy'n haeddu ei le ar lwyfannau mwyaf poblogaidd y byd.

Ar daith gyda'i bedwarawd:

Godwin Louis - sacsoffon

Esteban Castro - piano

Or Bareket- bas

Savannah Harris- drymiau