Am
Mae Emma Smith, enillydd gwobr seneddol yng nghategori Canwr Jazz y Flwyddyn, ar ei hanterth. Ar ôl magu profiad amrywiol a helaeth o berfformio mewn lleoliadau o Neuadd Frenhinol Albert yn Llundain i glybiau jazz mwyaf blaenllaw'r byd, mae'n anochel bod sioeau Emma yn hynod boblogaidd erbyn hyn. Mae wedi cydweithio â Michael Bublé, The Quincy Jones Orchestra, Jeff Goldblum a Jeremy Pelt / pumawd Wayne Escoffery. Ar yr un pryd, mae wedi ennill bri mawr fel artist pwerus, mynegiannol ym myd jazz, gan feithrin llu o ddilynwyr sy'n dychwelyd sioe ar ôl sioe.
Mae cyflawniadau niferus Emma hyd yn hyn yn cynnwys llwyddiant ysgubol ei grŵp harmonïau lleisiol hirsefydlog, The Puppini Sisters, yn ogystal â darlledu ar BBC Radio 3 am bedair blynedd. Mae hefyd yn aelod o grŵp teithiol clodwiw ei chlwb lleol, Ronnie Scott's All Stars. Yn dilyn taith hynod lwyddiannus gyda'r grŵp mawr Americanaidd Postmodern Jukebox, mae gyrfa Emma yn mynd o nerth i nerth ac mae'r arbenigwyr yn ei disgrifio fel un o'r lleisiau mwyaf cyffrous ym myd jazz heddiw.
Ar ôl cael ei magu mewn teulu o gerddorion jazz, roedd yn anochel y byddai Emma yn dwlu ar gerddoriaeth lawen a byrlymus. Gan fod ei mam yn sacsoffonydd a'i thad yn drympedwr ac yn gyfansoddwr, roedd hi'n clywed cordiau jazz, recordiau bebop a harmonïau lleisiol tair rhan o'r dechrau'n deg. Fodd bynnag, yn ôl Emma, y dylanwad mwyaf arni oedd ei thad-cu - canwr trombôn o ddwyrain Llundain a ddechreuodd mewn bandiau yn y Fyddin Brydeinig cyn dod i'r amlwg wrth ochr enwogion fel Sammy Davis Jr, Oscar Peterson, Barbra Streisand a Frank Sinatra. Meddai Emma, "Ni chollodd ef ddiwrnod o ymarfer erioed. Gwnaeth fy addysgu fod pob perfformiad yn hollbwysig. Rwyf wedi mabwysiadu etheg gwaith fy nghad-cu, ei gariad pur at gerddoriaeth, ei ddiolchgarwch am y fywoliaeth sy'n deillio ohoni, a'i uchelgais diderfyn."
Mae'r etheg gwaith honno wedi talu ar ei chanfed. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Emma wedi derbyn gwobrau a chydnabyddiaeth amrywiol gan feirniaid a sefydliadau. Mae'r rhain yn cynnwys bod yn un o ddwy gantores erioed i ennill medal The Worshipful Company of Musicians, cyrraedd rowndiau terfynol Cystadleuaeth Jazz Montreux, a chael ei henwi'n Act Jazz y Flwyddyn yng Ngwobrau Cerddoriaeth Boisdale dan nawdd Jools Holland yn 2024, gan gystadlu yn erbyn Ezra Collective, Courtney Pine a Nubya Garcia. Fe'i henwebwyd am y wobr seneddol yng nghategori Canwr Jazz y Flwyddyn yn 2022 a 2023 ac roedd yn destun balchder iddi pan enillodd yn 2024. Yn yr Unol Daleithiau, cyrhaeddodd rownd y pump olaf yn 12fed Gystadleuaeth Canu Jazz Ryngwladol Sarah Vaughan, a ddewiswyd o blith mwy na 280 o gynigion o 37 o wledydd - a hi oedd yr unig ganwr o'r tu allan i'r Unol Daleithiau i gystadlu.
Mae dyfodiad Emma i amlygrwydd wedi'i gadarnhau gan ei gwaith clodwiw yn y stiwdio, sy'n dangos ei bod yn ganwr ac yn drefnydd jazz amryddawn ac yn gyfansoddwr caneuon traddodiadol sy'n meddu ar allu lleisiol eithriadol. Cafodd Meshuga Baby, ei halbwm unigol, ei ganmol i'r cymylau, gan gael ei ffrydio filiynau o weithiau a derbyn cefnogaeth helaeth ar y radio gan Jamie Cullum (BBC Radio 2), Cerys Matthews (BBC 6 Music), TSF Jazz, a Jazz FM.
Bu disgwyl mawr am ei halbwm Bitter Orange, a gyhoeddwyd yn haf 2025 gan La Reserve. Hi oedd yr artist cyntaf o'r DU i gael ymuno â'r label Americanaidd dethol hwnnw. Mae Bitter Orange yn rhoi cipolwg ar feddwl a bywyd personol menyw sy'n llwyddo ar ei liwt ei hun, gan gofnodi cenhadaeth Emma i gael ei chlywed ac i greu argraff ar y byd heddiw - drwy sain sydd wedi'i gwreiddio yn y gorffennol.