Am
Dewch i ddysgu am hanes diwydiant copr helaeth a ffyniannus Abertawe drwy ymuno â Chyfeillion Gwaith Copr yr Hafod-Morfa am daith dywys am ddim o safle’r gwaith copr. Dewch i ddarganfod pam y daeth Abertawe’n adnabyddus fel Copropolis.
Byddwn yn cwrdd gyferbyn ag adeilad Parcio a Theithio Glandŵr, ger y cerflun o’r simnai. Bydd y teithiau tywys yn para oddeutu 2 awr a does dim rhaid cadw lle ymlaen llaw. Bydd mwy o siarad na cherdded, ond gwisgwch esgidiau cadarn. Y côd post yw SA1 2LQ.
Os ydych yn cyrraedd yn gynnar, mae croeso i chi gael cip ar ein harteffactau a’n lluniau o’r gwaith copr.