Am

Taith dywys arbennig o'r arddangosfa Teigrod a Dreigiau: India a Chymru ym Mhrydain gyda churadur yr arddangosfa, Dr Zehra Jumabhoy.

Bydd Zehra yn rhoi cipolwg i ymwelwyr ar y cysyniadau a'r penderfyniadau curadurol sy'n llywio'r arddangosfa yn y tair prif adran sy'n cysylltu India a Chymru, sef Cysylltiadau Hanesyddol, Trothwyon a Mythau Cenhedloedd.

Man cwrdd: Derbynfa 

Rhaid cadw lle drwy gysylltu ag Oriel Gelf Glynn Vivian. Mae lleoedd yn brin.  Ar gyfer oedolion, yn agored i blant 12 oed ac yn hŷn.

Am ddim. Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein  

Rhan o Benwythnos Abertawe Greadigol 2025