Am

Dyddiad: Nos Sul 7 Medi
Amser: 6.15pm
Lleoliad: Ystafell y Cefnfor, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Tocynnau: £15

Rydym yn croesawu Tango Jazz Quartet i Ŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe ar gyfer perfformiad arbennig sy'n cyfuno cerddoriaeth danbaid tango'r Ariannin â cherddoriaeth soniarus jazz.

  • Ezequiel Vargas - Drymiau 
  • Gustavo Firmenich - Tenor Saxe & Clarinet
  • Martin Rao de Vita - Bas
  • Santiago Villalba - Piano

Mae hon yn fwy na chyngerdd; mae'n daith gerddorol lle mae'r band yn plethu melodïau a rhythmau angerddol cerddoriaeth tango draddodiadol â seiniau digymell jazz. Y canlyniad? Sain sy'n hiraethlon ac yn fodern ar yr un pryd.Mae Tango Jazz Quartet, sydd wedi rhyddhau 10 albwm ac wedi bod ar sawl taith ryngwladol, wedi perfformio yn rhai o glybiau a gwyliau jazz fwyaf nodedig y byd. Mae eu cerddoriaeth yn mynd y tu hwnt i’r disgwyl, a nawr maent yn dod i Abertawe.

Roedd eu prosiect diweddaraf yn talu teyrnged i'r enwog Astor Piazzolla, y cyfansoddwr a wnaeth drawsnewid y tango yn 'tango nuevo' drwy gyfuno tango â jazz a dylanwadau clasurol. Gallwch ddisgwyl clywed rhai o'r trefniannau syfrdanol hyn yn fyw!

Mae Tango Jazz Quartet hefyd wedi treiddio'n ddyfnach i wreiddiau cerddoriaeth tango, gan ddathlu gwaith diamser Carlos Gardel, un o gantorion a chyfansoddwyr fwyaf eiconig yr Ariannin.

P'un a ydych yn gefnogwr jazz awyddus, yn dwlu ar gerddoriaeth tango neu'n edrych am brofiad cerddoriaeth fyw unigryw, dyma'r perfformiad i chi.

Archebwch eich tocynnau nawr!

Archebwch ar gyfer pob un o’r 11 sioe â thocynnau am bris untro o £165 gyda’n gostyngiad VIP amleitem - 01792 475715.

Mae pob tocyn yn destun ffi archebu o 5%