Am
Mae Teigrod a Dreigiau yn edrych ar eiconograffi cenhedloedd de Asia a Chymru; gan archwilio sut maent wedi dychmygu eu hunain - neu wedi'u dychmygu - dros y canrifoedd. Os India oedd 'yr em yn y goron ymerodrol', a allem ddadlau mai Cymru oedd trefedigaeth gyntaf Lloegr? Wrth i Gymru frwydro am ei hunaniaeth o fewn 'Prydeindod', mae'n amserol ailasesu'r ffordd y gwnaeth gyfrannu at uchelgeisiau ymerodrol Prydain, elwa ohonynt a hyd yn oed dioddef drostynt. Mae'r sioe yn ymchwilio i waddol yr Ymerodraeth Brydeinig a'i pherthnasedd parhaus ar gyfer hunaniaeth Gymreig yn ogystal ag ar gyfer India, Pacistan a Bangladesh.
Mae'r arddangosfa hon yn cynnwys dros 100 o gelfweithiau - paentiadau, ffotograffau, perfformiadau, tecstilau, gosodweithiau cerfluniol a chyfryngau newydd - gan oddeutu 70 o artistiaid o Gymru, Lloegr, India a Phacistan. Daw benthyciadau hanesyddol a chyfoes o gasgliadau preifat a chyhoeddus, gan gynnwys Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Castell Powis yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Chasgliad Ymerodraeth a Chymanwlad Brydeinig Amgueddfa Bryste. Cefnogir benthyciadau gan Raglen Fenthyca Weston drwy Art Fund. Rhaglen Fenthyca Weston, a grëwyd gan Garfield Weston Foundation ac Art Fund, yw'r cynllun ariannu cyntaf erioed ar draws y DU i alluogi amgueddfeydd llai a rhai awdurdodau lleol i fenthyca celfweithiau ac arteffactau o gasgliadau cenedlaethol.