Am

Bydd yr artist Rhiannon Morgan yn paentio teigrod a dreigiau ar wynebau plant mewn ymateb i'r arddangosfa Teigrod a Dreigiau:India a Chymru ym Mhrydain

Mae Rhiannon yn gwahodd unigolion i gymryd rhan mewn anturiaethau creadigol arbrofol, rhannu profiadau a darganfyddiadau a chreu ar y cyd. Mae dysgu, prosesu a chysylltiad dynol yn drech na'r canlyniadau. Mae ei hawydd i hyrwyddo tosturi tuag at ein gilydd a'r ddaear wrth wraidd ei gwaith.

Artist o Abertawe yw Rhiannon Morgan. Mae ei harfer rhyngddisgyblaethol yn amrywio o weithio gyda'r cyhoedd mewn amrywiaeth o leoliadau diwylliannol i waith myfyriol mewn stiwdio.

Rhan o Benwythnos Abertawe Greadigol 2025