Am

Taith i ddathlu 20 o flynyddoedd ers rhyddhau Back To Black

Oherwydd galw mawr, mae The Amy Winehouse Band, band gwreiddiol Amy a oedd wedi perfformio gyda hi o'r dechrau a thrwy ei dyfodiad sydyn, wedi cyhoeddi dyddiadau ychwanegol ar gyfer eu taith o'r DU i ddathlu 20 o flynyddoedd ers rhyddhau ei halbwm Back to Black.

Rhyddhawyd yr albwm yn 2006 a daeth Back to Black yn llwyddiant ysgubol a ddyrchafodd Amy Winehouse o berfformiwr ar ei chynnydd ym Mhrydain i seren fyd-eang. Cyrhaeddodd ei gyrfa uchafbwyntiau digynsail wrth iddi ennill pum wobr GRAMMY yn ystod seremoni 2008 (Record y Flwyddyn, Cân y Flwyddyn, Perfformiad Lleisiol Pop Gorau gan Fenyw, Albwm Lleisiol Pop Gorau, Artist Newydd Gorau) a hi oedd y fenyw Brydeinig gyntaf erioed i ennill cynifer mewn un noson. Roedd ei band yn perfformio gyda hi'r noson honno, fel yr oeddent wedi'i wneud yn ystod ei pherfformiadau cyntaf yn nhafarndai yn Llundain.

Erbyn hyn, mae The Amy Winehouse Band yn parhau i gyflwyno ei chatalog o gerddoriaeth i gynulleidfaoedd ledled y byd, gan gadw etifeddiaeth gerddorol Amy yn fyw a rhoi cyfle i genedlaethau newydd weld y caneuon poblogaidd hyn yn cael eu perfformio'n fyw.

Dan arweiniad cyfarwyddwr cerddorol tymor hir Amy a'i chwaraewr bas Dale Davis, mae The Amy Winehouse Band yn cynnwys aelodau sydd wedi bod ar daith gydag Amy ac wedi recordio gyda hi trwy gydol ei gyrfa.

Meddai Dal y canlynol am y daith i ddathlu 20 o flynyddoedd ers Back to Black sydd ar y gweill,

"Mae'n anodd credu bod eleni'n nodi 20 o flynyddoedd ers rhyddhau Back to Black.

Pan wnes i longyfarch Amy ar lwyddiant yr albwm anhygoel hwn, dywedodd hi wrtha' i, heb unrhyw drahauster: 'Roeddwn i'n gwybod beth oeddwn i'n ei wneud', ac ar y foment honno, sylweddolais ei bod hi'n gwybod yn union beth roedd hi wedi'i greu.

Mae'n parhau i fod yn anrhydedd, yn bleser ac yn fraint i berfformio'r caneuon hyn o'r albwm diamser arbennig hwn."