Am

Ymunwch â byd Dr Hubble wrth iddo gyflwyno The Bubble Spectacular - sioe syfrdanol sy'n llawn swigod a sbri! Bydd Dr Hubble yn eich synnu drwy greu swigod bach, swigod MAWR, swigod folcano, swigod tornado a swigod sgwâr. Efallai y bydd ei hudoliaeth yn eich dal mewn swigen hefyd! Bydd y parti penigamp hwn yn llawn chwerthin, cyfranogiad y gynulleidfa a hyd yn oed ffrwydrad o swigod ffyrnig, gan syfrdanu'r plant a'r oedolion sy'n cadw cwmni iddynt wrth i swigod hedfan o gwmpas yr awditoriwm a mabwysiadu ffurfiau nad ydych erioed wedi'u gweld o'r blaen! Dyma'r parti swigod MWYAF yn y byd! Byddwch yn barod i bopian, llamu a dawnsio mewn awyrgylch llawn hwyl! Daw The Bubble Spectacular i'r Deyrnas Unedig ar gyfer gwyliau'r Pasg! Daliwch y swigen honno cyn iddi ddianc! Mae'n anhygoel!

Archebwch eich tocynnau nawr a byddwch yn barod am sioe swigod syfrdanol!