Am
Efallai eich bod chi'n ei hadnabod fel seren The Great British Bake Off, Taskmaster, Just A Minute, neu fel rhywun sy'n teithio'r byd, ond mae Sue hefyd yn ddigrifwr sy'n llawn syrpreisys!
Yn y sioe hon am stigma, cywilydd a chamddealltwriaeth, mae Sue yn rhannu straeon doniol o'r tu ôl i'r camerâu teledu.
Beth yw'r canlyniadau pan fydd eich chwarren bitẅidol yn mynd o chwith ar ddarllediad teledu byw? Sut ydych chi'n darbwyllo'r cyhoedd nad oeddech chi wedi syrthio ar atodiad yr hwfer yn fwriadol? A phan fydd lluniau personol yn cael eu dosbarthu ar y rhyngrwyd, sut ydych chi'n newid teimladau o gywilydd i urddas a llawenydd?