Am

Gyda Belinda Davids

Daw etifeddiaeth gerddorol Whitney Houston yn fyw yn y sioe deyrnged glodwiw hon sy'n cael ei disgrifio fel un sy'n hynod debyg i'r gwreiddiol. Dewch i gael eich syfrdanu gan lais trawiadol Belinda Davids, enillydd Even Better Than the Real Thingy BBC, sydd hefyd wedi ymddangos arBritain's Got Talent a Showtime at the Apollo.

Bydd y cynhyrchiad rhyngwladol hwn sy'n para dwy awr yn eich llenwi â llawenydd, hiraeth a syfrdandod wrth i'r sioe fynd â chi ar daith deimladwy drwy holl ganeuon poblogaidd Whitney Houston, gan gynnwys I Wanna Dance With Somebody, I Will Always Love You, Greatest Love of All, How Will I Know, One Moment in Time, I Have Nothing, Run to You, Didn't We Almost Have It All, I'm Every Woman, Where Do Broken Hearts Go, Queen of the Night, Higher Love a mwy.

Bydd Belinda Davids yng nghwmni band byw a chantorion cefndir, ynghyd â sain, goleuo ac effeithiau gweledol a theatr o'r radd flaenaf. Dyma deyrnged grefftus a chywrain i un o gantorion mwyaf uchel ei pharch y byd.

Dyma gyngerdd arbennig na ddylid ei cholli.

 

*Nid yw'n gysylltiedig ag ystâd Whitney Houston