Am

Addaswyd o lyfr lluniau arobryn Julia Donaldson ac Alex Scheffler. Cyflwynir gan Tall Stories.

Rhaid i ti byth byth fynd am dro i'r goedwig fawr ddofn!

Ewch ar antur gyda phlentyn y Gryffalo yn addasiad hudol Tall Stories o lyfr lluniau hynod boblogaidd Julia Donaldson ac Alex Scheffler.

Un noson wyllt a gwyntog, mae merch y Gryffalo'n anwybyddu rhybuddion ei thad am y llygoden ddrwg ac yn camu i'r goedwig fawr ddofn. Mae'n dilyn trywydd yr eira ac yn dod ar draws creaduriaid dirgel, ond a yw'r llygoden ddrwg wir yn bodoli?

Dewch i ddefnyddio'ch dychymyg a mwynhau caneuon, jôcs a difyrrwch dychrynllyd i bobl o 3 i 103 oed!

The Gruffalo's Child © Julia Donaldson ac Axel Scheffler 2004 - Macmillan Children's Books