Am
Mae Gŵyl Tawe, gŵyl gelfyddydol iaith Gymraeg Abertawe, yn dychwelyd gyda rhaglen eang newydd ar draws canol y ddinas ar benwythnos y 5ed a'r 6ed o Fehefin 2026.
Ar y nos Wener bydd gig agoriadol newydd yn lleoliad The Bunkhouse gyda The Joy Formidable. Mae'r Joy Formidable yn dychwelyd i Abertawe gyda'u sioe electrig gyntaf ers dwy flynedd wrth i ddrymiwr newydd, Dafydd Cartwright, ymuno â’r band. Ar ôl cyfnod o ryddhau recordiau unigol a chwarae sioeau acwstig, mae Ritzy Bryan (llais/gitâr) a Rhydian Dafydd (bas/llais) yn dychwelyd i sŵn sinematig y band, gyda cherddoriaeth newydd yn dod yn 2026. Mae'r sioeau eraill ar y gorwel yn cynnwys y Royal Albert Hall gyda’r Manic Street Preachers, a chefnogi The Cure yn eu sioe yng Nghaerdydd ym mis Mehefin.
Yn ymuno â The Joy Formidable yn The Bunkhouse bydd sŵn mawr ac alawon cain Breichiau Hir, yr arloesol Pat Morgan o Datblygu, a pync neo-rave minimalaidd Crinc.