Am
Beth sydd o dan donnau disglair y môr, tybed? Pe bai dreigiau'n gallu nofio a môr-forwynion yn gallu hedfan, ble byddent yn mynd a beth byddent yn ei ddarganfod?
Dewch i weld beth yw hynt y fôr-forwyn a draig y lleuad wrth iddynt fynd ar antur llawn rhyfeddod, teithiau, hudoliaeth, cerddoriaeth ac ysblander gweledol. Ar ôl disgyn i'r ddaear a glanio yn y môr, mae draig y lleuad yn meithrin cyfeillgarwch â môr-forwyn sydd mor chwilfrydig ag ef.
Gyda'i gilydd, maent yn teithio i ddyfnderoedd y cefnfor a hyd at ymyl cysawd yr haul. Mae'r ddrama wreiddiol hon, sydd wedi'i hysgrifennu gan y dramodydd lleol Katie Dean, yn llawn hwyl i'r holl deulu.
Mae'n helpu plant i ddysgu am y môr a'r awyr wrth annog eu chwilfrydedd a meithrin eu gwybodaeth, gyda chymorth dau greadur hudolus.