Am

Bale crand ar gyfer tymor yr ŵyl a gyflwynir gan Imperial Classical Ballet®

Gyda cherddorfa fyw fawr.

Yn dilyn llwyddiant ysgubol y llynedd, mae Imperial Classical Ballet® yn falch o ddychwelyd i'r DU gyda'u cynhyrchiad syfrdanol o The Nutcracker.

Traddodiad yr ŵyl....

Ni fyddai'r Nadolig yn gyflawn heb daith i'r theatr i brofi hud bale mwyaf poblogaidd y byd -The Nutcracker Gyda chawodydd eira, losin, tywysogion, hud a chariad, mae'r cynhyrchiad cyfareddol hwn yn dal hanfod tymor yr ŵyl.

Mae The Nutcracker,sydd wedi'i osod i sgôr ddiamser Tchaikovsky ac sy'n cynnwys yr enwog Walts y Blodau a Dawns y Dylwythen Deg Siwgr Plwm, yn parhau i hudo cynulleidfaoedd o bob oed. Mae'n gyflwyniad perffaith i harddwch bale wrth barhau'n hoff glasur i selogion sydd wedi hen arfer â'r genre.

Ymgollwch yn hud The Nutcracker,un o ffefrynnau'r ŵyl sydd wedi boddio cynulleidfaoedd ar draws y byd. Peidiwch â cholli'r cynhyrchiad cyfareddol hwn a ddaw yn fyw drwy gelfyddwaith Imperial Classical Ballet® a seiniau cyfoethog cerddorfa fyw.