Am

Mae Clwb Jazz Abertawe'n cyflwyno Ella a Cherddorfa Count Basie yn Cu Mumbles y mis Tachwedd hwn!

Bydd y band a'r lleiswyr gwadd yn dathlu cerddoriaeth Ella Fitzgerald, y'i galwyd yn 'the First Lady of Jazz', a Cherddorfa Count Basie, gan gynnwys y trefniadau gwreiddiol gan Quincy Jones, Sammy Nestico a Heal Hefti.

Mae Band Mawr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru'n cynnwys myfyrwyr sy'n astudio yn y coleg ar hyn o bryd ac mae'n cynnwys myfyrwyr presennol y cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig ar y cyrsiau Jazz a Cherddoriaeth Glasurol yn bennaf.

Mae Band Mawr CBCDC yn ymarfer bob wythnos dan arweiniad y Cyfarwyddwr Cerddorol presennol, Ceri Rees, ac mae'n mwynhau rhaglen amrywiaeth a llwyddiannus o gyngherddau trwy gydol y flwyddyn academaidd yn y coleg ei hun ac ymhellach i ffwrdd.

Cafodd y band ei gynnwys yn ddiweddar mewn cyfres o gyngherddau yn CBCDC ar gyfer ei ŵyl jazz flynyddol ac mewn cyngerdd ddiweddar i dalu teyrnged i gerddoriaeth Bandiau Mawr America a Sinatra a Basie yng ngwesty Sands.

Mae Band Mawr CBCDC hefyd wedi ymddangos yng Ngŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe i glod mawr ac mae'n perfformio'n rheolaidd yng Nghymdeithas Bandiau Mawr De Cymru.

Nos Fercher 27 Tachwedd. Drysau'n agor am 8pm, £15 y person. 

Llun o Fand Mawr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru'n perfformio ar lwyfan.