Am
The Sensational 60's Experienceyw'rsioe deithiol fwyaf, a'r unig sioe, sy'n dathlu'r 60au. Mae'n cynnwys ensemble anhygoel o artistiaid ac aelodau gwreiddiol o fandiau'r cyfnod. Dyma ŵyl wych a fydd yn peri i chi hel meddyliau am gerddoriaeth hudolus y degawd hwnnw.
P'un a ydych am ddod i ail-fyw trac sain eich ieuenctid neu am weld yr hyn y mae eich rhieni wedi bod yn ei ganmol i'r cymylau, peidiwch â cholli'r sioe hon yn 2027!
Bydd yn cynnwys pump o enwau mwyaf o'r 60au sy'n dal i deithio heddiw, Dozy Beaky Mick & Tich, The Trems (gyda Jeff Brown, cyn aelod o The Tremeloes), The Fortunes,Vanity Fare, The Swinging Blue Jeans.Mae'r noson fythgofiadwy hon yn llawn clasuron bythol fel The Legend Of Xanadu, Silence Is Golden, Storm in a Teacup, Hitchin' a Ride, Hippy Hippy Shake, a llawer mwy!
Byddwch yn barod i gamu yn ôl mewn amser i gyfnod pan oedd cerddoriaeth bop ar ei gorau. Mae The Sensational 60s Experience yn sioe na fyddwch chi byth yn ei hanghofio!