Am

Y stori ias a chyffro seicolegol eiconig

Y perfformiad cyntaf erioed ar lwyfan

Bydd Dr Hannibal Lecter yn eich gweld yn awr...

Dewch wyneb yn wyneb â'r ffenomen ddiwylliannol iasol The Silence Of The Lambs wrth i'r ddrama gael ei pherfformio am y tro cyntaf ar lwyfan yn 2026. Mae'r ddrama newydd drydanol hon sy'n seiliedig ar gampwaith lenyddol afaelgar Thomas Harris, yn cael ei pherfformio yn Theatr y Grand, Abertawe.

Pan anfonir un o hyfforddeion yr FBI, Clarice Starling, i gyfweld â'r seiciatrydd a'r llofrudd ffiaidd Hannibal Lecter, y gobaith yw y bydd ei feddwl disglair yn helpu i ddal llofrudd lluosog newydd sadistaidd, Buffalo Bill. Mae merch arall ar goll, ac mae amser yn mynd yn brin. Ond mae gan Dr Lecter gwestiynau ei hun, a nawr mae'n rhaid i Clarice benderfynu a ddylai gadw pellter diogel, neu adael i Hannibal 'The Cannibal' ddylanwadu ar ei meddwl?

Mae'r ddrama The Silence Of The Lambs a ysgrifennwyd gan Gina Gionfriddo ac a gyfarwyddir gan yr enwog Nikolai Foster, yn llawn tensiwn sy'n dod â chyffro eiconig a chymeriadau arswydus o gofiadwy'r nofel nodedig hon yn fyw o flaen eich llygaid.

Mae amser yn mynd heibio. Archebwch docyn nawr...

cyn ei fod yn rhy hwyr.

Sylwer bod y cynhyrchiad hwn yn cynnwys golygfeydd o fygythiad, trais a llofruddiaeth, iaith gref, cyfeiriadau rhywiol ac aflonyddu, anffurfio ac arswyd corff, dwyster seicolegol, trawma plentyndod a gweddillion dynol prosthetig ar y llwyfan.