Am

Sioe wych sy'n seiliedig ar y llyfr gan Julia Donaldson ac Axel Scheffler. Cyflwynir gan Tall Stories.

STORI LAWEN AM ESTRONWYR ANFFORTUNUS

Teithiwch i'r gofod yn yr addasiad hwn a enwebwyd am wobr Olivier o lyfr hynod boblogaidd y ddeuawd ddawnus, Julia Donaldson ac Alex Scheffler.

Ar blaned yn bell i ffwrdd, dydy'r Smis a'r Smws byth, byth yn cael bod yn ffrindiau. Felly pan fydd un Smi ac un Smw ifanc yn syrthio mewn cariad ac yn dianc i'r gofod gyda'i gilydd, sut bydd eu teuluoedd yn llwyddo i'w cael yn ôl?

Sioe llawn cerddoriaeth, jôcs, ac anturiaethau rhyngblanedol i blant 3 oed ac yn hŷn, gan Tall Stories - y cwmni sy'n cyflwyno The Gruffalo a Room on the Broom yn fyw ar y llwyfan.

 

The Smeds and The Smoos, © Julia Donaldson ac Axel Scheffler 2019, cyhoeddwyd gan Scholastic