Am

Dewch i ddathlu 40 mlynedd ers i’r albwm eiconig  ’Born in The USA’ gael ei rhyddhau gyntaf gyda’r cynhyrchiad theatr penigamp The Sound Of Springsteen.

Cewch brofi gorfoledd roc a rôl pur Bruce Springsteen wrth i’r sioe eithriadol hon ddod â’i sain eiconig yn fyw, gan fynd â chi ar daith gerddorol drwy’r catalog syfrdanol o ‘Greetings from Asbury Park’  i ‘Ghosts’  yn y 2020au drwy’r caneuon ysgubol enwog ‘Born in the USA’  a ‘Born to Run’.

O’r lleisiau pwerus i’r cynhyrchiad llwyfan trawiadol, caiff pob manylyn ei saernïo’n gywrain i’ch cludo yn ôl i oes aur rôl a rôl. P’un a ydych wedi bod yn gefnogwr Springsteen ar hyd eich oes neu’n darganfod ei gerddoriaeth am y tro cyntaf, cewch eich hudo gan y gitarau taranllyd, y sacsoffon eiconig a’r geiriau pwerus a ddiffiniodd genedlaethau.

Ymbaratowch i brofi etifeddiaeth The Boss a mwynhewch noson o glasuron roc gyda’r profiad Springsteen go iawn!