Am

Mae cyngerdd anthemau gitâr flaenllaw'r DU, The Story of Guitar Heroes, yn dychwelyd ar daith i ddathlu 10 mlynedd. Mae'r gyngerdd hon yn teithio drwy bum degawd o gerddoriaeth roc a rôl eiconig y 1950au i arwyr gitâr mwyaf dylanwadol yr oes fodern.

Yn adnabyddus am eu gallu technegol a'u gallu i ail-greu seiniau unigryw'r holl gitaryddion o fri mewn modd trawiadol o fanwl, mae The Story of Guitar Heroes yn defnyddio cynifer â 35 o gitarau go iawn gwahanol.

Gallwch ddisgwyl caneuon ysgubol poblogaidd gan enwogion fel Hank Marvin, Eric Clapton, Jimi Hendrix, Brian May, Jimmy Page, Mark Knopfler, David Gilmour, Ritchie Blackmore, Tony Immi, Van Halen, Slash a llawer mwy.